16 124 818 livres à l’intérieur 175 langues
2 047 051 livres numériques à l’intérieur 101 langues
Cela ne vous convient pas ? Aucun souci à se faire ! Vous pouvez renvoyer le produit dans les 30 jours
Impossible de faire fausse route avec un bon d’achat. Le destinataire du cadeau peut choisir ce qu'il veut parmi notre sélection.
Politique de retour sous 30 jours
Mae'r gyfrol hon yn ymwneud ag un o sefydliadau addysg uwch pwysicaf Cymru, yn cwmpasu ei hanes o'i greu ym 1884 fel Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, ei ymgnawdoliad fel Prifysgol Cymru, Bangor a'i ben-blwydd yn 125 oed yn 2009. Mae'r gyfrol yn olrhain gwreiddiau'r sefydliad fel tafarn y goets fawr yn y ddeunawfed ganrif gyda 58 o fyfyrwyr yn unig i'w statws presennol fel sefydliad sy'n mwynhau buddsoddiad o filiynau o bunnoedd yn ei staff a'i adeiladau yn yr unfed ganrif ar hugain. Stori yw hon o frwydro arwrol, ymdrech bersonol, argyfyngau ariannol, aflonyddwch gwleidyddol, rhagoriaeth academaidd ac ymroddiad myfyrwyr. Mae'r hanes yn olrhain twf a datblygiad y sefydliad, gan ganolbwyntio ar y personoliaethau fu'n siapio ei gyfeiriad, a natur newidiol bywyd myfyrwyr ar y campws. Thema sylfaenol y gyfrol yw cynnydd academaidd, o fewn cyd-destun datblygiad gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd Cymru yn ystod y ganrif ddiwethaf, ac mae hefyd yn cwmpasu blynyddoedd cynnar yr unfed ganrif ar hugain.